Ann IdwenWILLIAMSNanw Gyrn Goch Dymuna Elfed, Jane, Berta a Tomos Huw ddiolch o waelod calon am bob arwydd o gydymdeimlad â ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli mam, mam-yng-nghyfraith a nain amhrisiadwy. Diolch i'r meddygon, nyrsus a staff Ysbyty Dolgellau am eu gofal yn ystod ei chyfnod yno. Ein diolch hefyd i'w chymdogion triw, ac i bawb ddaeth i dalu'r deyrnged olaf iddi, boed hynny yn Gyrn Goch neu ar y ffordd i Fangor. Diolch i'r Parchedig Iwan Llywelyn Jones am ei wasanaeth ar ddydd yr angladd. Rydym yn hynod o ddiolchgar am y rhoddion tu hwnt o hael o £610 â dderbyniwyd er cof am Nanw tuag at Feddygfa Aelhaearn. Yn olaf, mae ein diolch mwyaf i'r ymgymerwyr, Ifan a Nia, Ceiri Garage, am eu gwasanaeth proffesiynol a gofalus ar adeg mor anodd i ni fel teulu.
Keep me informed of updates